Leviticus 17:4 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac heb ei ddwyn i ddrws pabell y cyfarfod, i offrymu offrwm i'r ARGLWYDD, o flaen tabernacl yr ARGLWYDD; gwaed a fwrir yn erbyn y gŵr hwnnw; gwaed a dywalltodd efe: a thorrir y gŵr hwnnw ymaith o blith ei bobl.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
yn lle mynd â'r anifail at y fynedfa i'r Tabernacl i'w gyflwyno'n offrwm i'r ARGLWYDD, bydd y person hwnnw yn euog o dywallt gwaed. Mae e wedi tywallt gwaed, a bydd e'n cael ei dorri allan o gymdeithas pobl Dduw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
a heb ddod ag ef at ddrws pabell y cyfarfod i'w gyflwyno'n rhodd i'r ARGLWYDD o flaen y tabernacl, y mae hwnnw yn cael ei ystyried yn euog o waed; y mae hwnnw wedi tywallt gwaed, ac y mae i'w dorri ymaith o blith ei bobl.