Leviticus 18:21 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac na ddod o'th had i fyned trwy dân i Moloch: ac na haloga enw dy DDUW: myfi yw yr ARGLWYDD.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Paid rhoi un o dy blant i'w losgi'n fyw i'r duw Molech. Mae gwneud peth felly yn sarhau enw Duw. Fi ydy'r ARGLWYDD.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"'Nid wyt i roi yr un o'th blant i'w aberthu i Moloch, a halogi enw dy Dduw. Myfi yw'r ARGLWYDD.