Leviticus 18:30 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Am hynny cedwch fy neddf i, heb wneuthur yr un o'r deddfau ffiaidd a wnaed o'ch blaen chwi, ac nac ymhalogwch ynddynt: myfi yw yr ARGLWYDD eich DUW chwi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Gwnewch beth dw i'n eich siarsio chi i'w wneud, a peidio gwneud y pethau ffiaidd sy'n cael eu gwneud gan y bobl sydd yno o'ch blaen chi. Peidiwch gwneud y pethau sy'n eich gwneud chi'n aflan yn fy ngolwg i. Fi ydy'r ARGLWYDD eich Duw chi.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Cadwch fy ngofynion, a pheidiwch dilyn yr arferion ffiaidd a wnaed o'ch blaen, na chael eich halogi ganddynt. Myfi yw'r ARGLWYDD eich Duw.'"