Leviticus 19:10 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Na loffa hefyd dy winllan, ac na chynnull rawn gweddill dy winllan; gad hwynt i'r tlawd ac i'r dieithr: yr ARGLWYDD eich DUW chwi ydwyf fi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Paid casglu'r grawnwin sy'n dy winllan i gyd. A paid mynd trwy'r winllan yn casglu'r ffrwyth sydd wedi disgyn ar lawr. Rhaid i ti adael peth i bobl dlawd, ac i'r rhai sydd ddim yn bobl Israel. Fi ydy'r ARGLWYDD dy Dduw di.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Nid wyt i ddinoethi dy winllan yn llwyr na chasglu'r grawnwin a syrthiodd; gad hwy i'r tlawd a'r estron. Myfi yw'r ARGLWYDD dy Dduw.