Leviticus 19:12 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac na thyngwch i'm henw i yn anudon, ac na haloga enw dy DDUW; yr ARGLWYDD ydwyf fi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Paid defnyddio fy enw wrth gymryd llw rwyt ti'n mynd i'w dorri. Mae gwneud peth felly yn amharchu enw Duw. Fi ydy'r ARGLWYDD.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Nid ydych i dyngu'n dwyllodrus yn fy enw, a halogi enw eich Duw. Myfi yw'r ARGLWYDD.