Leviticus 19:22 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A gwnaed yr offeiriad gymod drosto â'r hwrdd dros gamwedd, gerbron yr ARGLWYDD, am ei bechod a bechodd efe: a maddeuir iddo am ei bechod a wnaeth efe.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae'r offeiriad i gymryd yr hwrdd a mynd trwy'r ddefod o wneud pethau'n iawn rhwng y dyn sydd wedi pechu a'r ARGLWYDD. Bydd Duw yn maddau iddo am y pechod.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Oherwydd y pechod a wnaeth, bydd yr offeiriad yn gwneud cymod drosto o flaen yr ARGLWYDD hwrdd yr offrwm dros gamwedd; ac fe faddeuir iddo am y pechod a wnaeth.