Leviticus 19:25 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r bumed flwyddyn y bwytewch ei ffrwyth, fel y chwanego efe ei gnwd i chwi: myfi yw yr ARGLWYDD eich DUW.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Wedyn yn y bumed flwyddyn cewch fwyta'r ffrwyth. Os gwnewch chi hyn byddwch yn cael cnydau lawer iawn mwy. Fi ydy'r ARGLWYDD eich Duw chi.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond yn y bumed flwyddyn cewch fwyta'i ffrwyth, er mwyn iddi ffrwythloni rhagor. Myfi yw'r ARGLWYDD eich Duw.