Leviticus 19:8 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r hwn a'i bwytao a ddwg ei anwiredd, am iddo halogi cysegredig beth yr ARGLWYDD; a'r enaid hwnnw a dorrir ymaith o blith ei bobl.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Bydd pwy bynnag sy'n ei fwyta yn cael ei gosbi am bechu, am ei fod wedi trin rhywbeth sydd wedi ei gysegru i'r ARGLWYDD yn sarhaus. Bydd y person hwnnw yn cael ei dorri allan o gymdeithas pobl Dduw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Y mae'r sawl sy'n ei fwyta yn gyfrifol am ei drosedd; oherwydd iddo halogi'r hyn sy'n sanctaidd i'r ARGLWYDD, fe'i torrir ymaith o blith ei bobl.