Leviticus 2:13 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Dy holl fwyd‐offrwm hefyd a hellti di â halen; ac na phalled halen cyfamod dy DDUW o fod ar dy fwyd‐offrwm: offryma halen ar bob offrwm i ti.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Mae halen yn cael ei ddefnyddio fel arwydd o ymrwymiad rhyngot ti a Duw. Felly paid anghofio rhoi halen ar dy offrwm o rawn. Rho halen ar bob offrwm wyt ti'n ei gyflwyno i Dduw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr wyt i halltu halen dy holl fwydoffrymau, a pheidio chadw halen cyfamod dy Dduw o'th fwyd-offrymau; yr wyt i roi halen ar dy holl offrymau.