Leviticus 20:11 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r gŵr a orweddo gyda gwraig ei dad, a noethodd noethni ei dad: lladder yn feirw hwynt ill dau; eu gwaed fydd arnynt eu hunain.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae dyn sy'n cael rhyw gyda gwraig ei dad yn amharchu ei dad. Y gosb ydy marwolaeth i'r ddau. Arnyn nhw mae'r bai.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Os bydd dyn yn gorwedd gyda gwraig ei dad, y mae wedi amharchu ei dad; y mae'r ddau ohonynt i'w rhoi i farwolaeth, ac y maent yn gyfrifol am eu gwaed eu hunain.