Leviticus 20:17 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r gŵr a gymero ei chwaer, merch ei dad, neu ferch ei fam, ac a welo ei noethni hi, ac y gwelo hithau ei noethni yntau: gwaradwydd yw hynny; torrer hwythau ymaith yng ngolwg meibion eu pobl: noethni ei chwaer a noethodd efe; efe a ddwg ei anwiredd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae'n beth gwarthus i ddyn gael rhyw gyda'i chwaer (merch i'w dad neu i'w fam), a'r ddau yn gweld ei gilydd yn noeth. Byddan nhw'n cael eu torri allan o gymdeithas pobl Dduw. Mae'r dyn wedi amharchu ei chwaer, ac mae'n rhaid iddo gael ei gosbi.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Os bydd dyn yn priodi ei chwaer, merch ei dad neu ei fam, ac yn cael cyfathrach rywiol hi, y mae'n warth. Y maent i'w torri ymaith yng ngu373?ydd plant eu pobl; y mae ef wedi amharchu ei chwaer ac y mae'n gyfrifol am ei drosedd.