Leviticus 20:18 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r gŵr a orweddo gyda gwraig glaf o'i misglwyf, ac a noetho ei noethni hi; ei diferlif hi a ddatguddiodd efe, a hithau a ddatguddiodd ddiferlif ei gwaed ei hun: am hynny torrer hwynt ill dau o fysg eu pobl.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Os ydy dyn yn cael rhyw gyda gwraig sy'n diodde o'r misglwyf, mae ffynhonnell ei gwaedlif wedi ei amlygu. Bydd y ddau ohonyn nhw yn cael eu torri allan o gymdeithas pobl Dduw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Os bydd dyn yn gorwedd gyda gwraig yn ei misglwyf, ac yn cael cyfathrach rywiol gyda hi, y mae wedi dinoethi tarddle ei diferlif gwaed ac y mae hithau wedi ei dinoethi. Y mae'r ddau ohonynt i'w torri ymaith o blith eu pobl.