Leviticus 20:25 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Rhoddwch chwithau wahaniaeth rhwng yr anifail glân a'r aflan, a rhwng yr aderyn aflan a'r glân; ac na wnewch eich eneidiau yn ffiaidd oherwydd anifail, neu oherwydd aderyn, neu oherwydd dim oll a ymlusgo ar y ddaear, yr hwn a neilltuais i chwi i'w gyfrif yn aflan.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyna pam mae'n rhaid i chi wahaniaethu rhwng yr anifeiliaid a'r adar sy'n lân a'r rhai sy'n aflan. Peidiwch llygru eich hunain drwy fwyta unrhyw anifail neu aderyn neu greadur arall dw i wedi dweud wrthoch chi ei fod yn aflan.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"'Yr ydych i wahaniaethu rhwng anifeiliaid gln ac aflan, a rhwng adar gln ac aflan. Nid ydych i'ch halogi eich hunain trwy unrhyw anifail, aderyn, nac unrhyw beth sy'n ymlusgo hyd y ddaear; dyma'r pethau a osodais ar wahn fel rhai aflan ichwi.