Leviticus 20:3 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A mi a osodaf fy wyneb yn erbyn y dyn hwnnw, ac a'i torraf o fysg ei bobl; am iddo roddi o'i had i Moloch, i aflanhau fy nghysegr, ac i halogi fy enw sanctaidd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Bydda i'n troi yn erbyn person felly. Bydd e'n cael ei dorri allan o gymdeithas pobl Dduw, am roi ei blentyn i Molech, llygru'r cysegr, a sarhau fy enw sanctaidd i.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Byddaf fi yn gosod fy wyneb yn erbyn hwnnw ac yn ei dorri ymaith o blith ei bobl, oherwydd trwy roi ei blant i Moloch gwnaeth fy nghysegr yn aflan a halogi fy enw sanctaidd.