Leviticus 20:9 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Os bydd neb a felltigo ei dad neu ei fam, lladder ef yn farw: ei dad neu ei fam a felltigodd efe; ei waed fydd arno ei hun.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Os ydy rhywun yn melltithio ei dad neu ei fam, y gosb ydy marwolaeth. Fe ei hun sydd ar fai.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"'Os bydd unrhyw un yn melltithio ei dad neu ei fam, y mae i'w roi i farwolaeth. Oherwydd iddo felltithio ei dad neu ei fam, y mae'n gyfrifol am ei waed ei hun.