Leviticus 21:1 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, Llefara wrth yr offeiriaid, meibion Aaron, a dywed wrthynt, Nac ymhaloged neb am y marw ymysg ei bobl.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses: “Dywed hyn wrth yr offeiriaid, disgynyddion Aaron: “Dydy offeiriad ddim i wneud ei hun yn aflan drwy fynd yn agos at gorff perthynas sydd wedi marw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, "Llefara wrth yr offeiriaid, meibion Aaron, a dywed wrthynt, 'Nid yw offeiriad i'w halogi ei hun am farw yr un o'i dylwyth,