Leviticus 21:23 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Eto nac aed i mewn at y wahanlen, ac na nesaed at yr allor, am fod anaf arno; ac na haloged fy nghysegroedd: canys myfi yw yr ARGLWYDD eu sancteiddydd hwynt.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond dydy e ddim i gael mynd yn agos at y llen na'r allor, am fod nam arno, rhag iddo lygru fy lle cysegredig i a phopeth sydd yno. Fi ydy'r ARGLWYDD sydd yn eu cysegru nhw i mi fy hun.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
ond oherwydd bod nam arno ni chaiff fynd at y llen na dynesu at yr allor, rhag iddo halogi fy nghysegr. Myfi yw'r ARGLWYDD sy'n eu sancteiddio.'"