Leviticus 22:21 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phan offrymo gŵr aberth hedd i'r ARGLWYDD, gan neilltuo ei adduned, neu rodd ewyllysgar o'r eidionau, neu o'r praidd, bydded berffaith‐gwbl, fel y byddo gymeradwy: na fydded un anaf arno.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“‘Pan mae rhywun yn cyflwyno offrwm i gydnabod daioni'r ARGLWYDD ar ôl cyflawni ei addewid, rhaid i'r anifail — o'r gyr o wartheg neu o'r praidd o ddefaid a geifr — fod heb ddim byd o'i le arno. Os ydy'r ARGLWYDD i'w dderbyn rhaid iddo fod heb nam arno.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Os bydd unrhyw un yn cyflwyno heddoffrwm i'r ARGLWYDD, i dalu adduned neu'n offrwm gwirfodd, boed o'r gyr neu o'r praidd, rhaid iddo fod yn berffaith a di-nam i fod yn dderbyniol.