Leviticus 22:25 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac nac offrymwch o law un dieithr fwyd eich DUW o'r holl bethau hyn: canys y mae eu llygredigaeth ynddynt; anaf sydd arnynt: ni byddant gymeradwy drosoch.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A dydy anifail felly sydd wedi ei brynu gan rywun sydd ddim yn Israeliad ddim i gael ei gyflwyno yn fwyd i'ch Duw. Am eu bod nhw wedi eu sbwylio, ac am fod nam arnyn nhw, fydd yr ARGLWYDD ddim yn eu derbyn nhw ar eich rhan chi.’”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
ac nid ydych i gymryd gan estron unrhyw un o'r rhain i'w gyflwyno'n fwyd i'ch Duw; gan eu bod wedi eu hanffurfio ac arnynt nam, ni fyddant yn dderbyniol ar eich rhan.'"