Leviticus 22:3 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Dywed wrthynt, Pwy bynnag o'ch holl hiliogaeth, trwy eich cenedlaethau, a nesao at y pethau cysegredig a gysegro meibion Israel i'r ARGLWYDD, a'i aflendid arno; torrir ymaith yr enaid hwnnw oddi ger fy mron: myfi yw yr ARGLWYDD.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dywed wrthyn nhw: O hyn ymlaen, os bydd unrhyw un ohonoch chi yn aflan am ryw reswm ac yn mynd yn agos at yr offrymau sanctaidd mae pobl Israel yn eu cyflwyno, bydd y person hwnnw yn cael ei dorri allan, a ddim yn cael dod yn agos ata i. Fi ydy'r ARGLWYDD.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Dywed wrthynt, 'Dros y cenedlaethau i ddod, os bydd unrhyw un o'ch disgynyddion, ac yntau'n aflan, yn dod at yr offrymau sanctaidd y mae pobl Israel yn eu cysegru i'r ARGLWYDD, rhaid ei dorri ymaith o'm gu373?ydd. Myfi yw'r ARGLWYDD.