Leviticus 23:14 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Bara hefyd, nac ŷd wedi ei grasu, na thywysennau ir, ni chewch eu bwyta hyd gorff y dydd hwnnw, nes dwyn ohonoch offrwm eich DUW. Deddf dragwyddol trwy eich cenedlaethau, yn eich holl drigfannau, fydd hyn.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Peidiwch bwyta dim o'r grawn, fel y mae neu wedi ei grasu, na bara wedi ei wneud ohono chwaith, nes byddwch chi wedi cyflwyno'r offrwm yma. Fydd y rheol yma byth yn newid ble bynnag fyddwch chi'n byw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Nid ydych i fwyta bara, grawn sych, na grawn ir cyn y diwrnod y byddwch yn dod 'ch rhodd i'ch Duw. Y mae hon yn ddeddf dragwyddol dros y cenedlaethau i ddod, ple bynnag y byddwch yn byw.