Leviticus 23:18 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac offrymwch gyda'r bara saith oen blwyddiaid, perffaith‐gwbl, ac un bustach ieuanc, a dau hwrdd: poethoffrwm i'r ARGLWYDD fyddant hwy, ynghyd â'u bwyd‐offrwm a'u diod‐offrwm; sef aberth tanllyd, o arogl peraidd i'r ARGLWYDD.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Hefyd rhaid cyflwyno saith oen sy'n flwydd oed, tarw ifanc, a dau hwrdd. Anifeiliaid heb unrhyw nam arnyn nhw, i'w llosgi'n llwyr yn offrwm sy'n arogli'n hyfryd i'r ARGLWYDD, gyda'r offrwm o rawn a'r offrwm o ddiod sydd i fynd gyda pob un.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Cyflwynwch gyda'r bara hwn saith oen blwydd di-nam, un bustach ifanc a dau hwrdd; byddant hwy'n boethoffrwm i'r ARGLWYDD, gyda'r bwydoffrwm a'r diodoffrwm, yn offrwm trwy dn, yn arogl peraidd i'r ARGLWYDD.