Leviticus 23:21 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A chyhoeddwch, o fewn corff y dydd hwnnw, y bydd cymanfa sanctaidd i chwi; dim caethwaith nis gwnewch. Deddf dragwyddol, yn eich holl drigfannau, trwy eich cenedlaethau, fydd hyn.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dych chi i ddathlu ar y diwrnod yma, a dod at eich gilydd i addoli. Peidio gwneud gwaith fel arfer. Fydd y rheol yma byth yn newid, ble bynnag fyddwch chi'n byw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ar y diwrnod hwnnw yr ydych i gyhoeddi cymanfa sanctaidd, ac i beidio gwneud unrhyw waith arferol. Y mae hon yn ddeddf dragwyddol dros y cenedlaethau i ddod, ble bynnag y byddwch yn byw.