Leviticus 23:22 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phan fedoch gynhaeaf eich tir, na lwyr feda gyrrau dy faes, ac na loffa loffion dy gynhaeaf; gad hwynt i'r tlawd a'r dieithr: myfi yw yr ARGLWYDD eich DUW chwi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Pan fyddi'n casglu'r cynhaeaf, rhaid i ti beidio casglu'r cwbl o bob cornel o'r cae. A paid mynd drwy'r cae yn casglu popeth sydd wedi ei adael ar ôl. Rhaid i ti adael peth i bobl dlawd, a'r rhai sydd ddim yn bobl Israel. Fi ydy'r ARGLWYDD eich Duw chi.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"'Pan fyddi'n medi cynhaeaf dy dir, paid medi at ymylon dy faes, a phaid lloffa dy gynhaeaf; gad hwy i'r tlawd a'r estron. Myfi yw'r ARGLWYDD eich Duw.'"