Leviticus 23:3 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Chwe diwrnod y gwneir gwaith; a'r seithfed dydd y bydd Saboth gorffwystra, sef cymanfa sanctaidd; dim gwaith nis gwnewch: Saboth yw efe i'r ARGLWYDD yn eich holl drigfannau.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Mae chwech diwrnod i chi allu gweithio, ond mae'r seithfed diwrnod yn Saboth. Diwrnod i chi orffwys a dod at eich gilydd i addoli. Peidiwch gweithio ble bynnag fyddwch chi'n byw. Mae'r diwrnod yma yn Saboth i'r ARGLWYDD.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"'Ar chwe diwrnod y cewch weithio, ond y mae'r seithfed dydd yn Saboth o orffwys, yn gymanfa sanctaidd; nid ydych i wneud unrhyw waith, oherwydd ple bynnag yr ydych yn byw, Saboth i'r ARGLWYDD ydyw.