Leviticus 23:36 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Saith niwrnod yr offrymwch aberth tanllyd i'r ARGLWYDD: ar yr wythfed dydd y bydd cymanfa sanctaidd i chwi; a chwi a offrymwch aberth tanllyd i'r ARGLWYDD: uchel ŵyl yw hi; na wnewch ddim caethwaith.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Rhaid i chi gyflwyno offrwm i'w losgi i'r ARGLWYDD bob dydd am saith diwrnod. Ar yr wythfed diwrnod byddwch yn dod at eich gilydd i addoli, a chyflwyno rhoddion i'r ARGLWYDD. Dyma'r diwrnod olaf i chi ddod at eich gilydd. Rhaid i chi beidio gweithio o gwbl.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Am saith diwrnod yr ydych i gyflwyno offrymau trwy dn i'r ARGLWYDD, ac ar yr wythfed diwrnod bydd gennych gynulliad sanctaidd, pan fyddwch yn cyflwyno aberth trwy dn i'r ARGLWYDD; dyma'r cynulliad terfynol, ac nid ydych i wneud unrhyw waith arferol.