Leviticus 23:41 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A chedwch hon yn ŵyl i'r ARGLWYDD saith niwrnod yn y flwyddyn: deddf dragwyddol yn eich cenedlaethau yw; ar y seithfed mis y cedwch hi yn ŵyl.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Rhaid i chi ddathlu'r Ŵyl yma i'r ARGLWYDD am saith diwrnod bob blwyddyn. Mae'n rheol sydd i'w gadw bob amser yn y seithfed mis.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dathlwch yr u373?yl hon i'r ARGLWYDD am saith diwrnod bob blwyddyn. Y mae hon yn ddeddf dragwyddol dros y cenedlaethau, eich bod i'w dathlu yn y seithfed mis.