Leviticus 24:10 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A mab gwraig o Israel, a hwn yn fab gŵr o'r Aifft, a aeth allan ymysg meibion Israel; a mab yr Israeles a gŵr o Israel a ymgynenasant yn y gwersyll.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
[10-11] Un diwrnod roedd dyn oedd yn fab i un o wragedd Israel, ond ei dad yn Eifftiwr, wedi mynd allan o'i babell i wersyll yr Israeliaid. A dyma fe'n dechrau ymladd gyda un o ddynion Israel. Dyma fe'n amharchu enw Duw, a melltithio. Felly dyma nhw'n mynd ag e at Moses. Enw ei fam oedd Shlomit (merch Dibri, o lwyth Dan).
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr oedd mab i wraig o Israel, a'i dad yn Eifftiwr, yn ymdeithio ymhlith pobl Israel, a chododd cynnen yn y gwersyll rhyngddo ef ac un o waed Israelig pur.