Leviticus 24:3 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
O'r tu allan i wahanlen y dystiolaeth, ym mhabell y cyfarfod, y trefna Aaron ef o hwyr hyd fore, gerbron yr ARGLWYDD, bob amser. Deddf dragwyddol trwy eich cenedlaethau fydd hyn.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae Aaron i'w gosod tu allan i'r llen sydd o flaen Arch y dystiolaeth yn y Tabernacl. Rhaid iddo ofalu eu bod yn llosgi drwy'r nos o flaen yr ARGLWYDD. Mae hyn i fod yn rheol bob amser.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Y tu allan i len y dystiolaeth ym mhabell y cyfarfod y mae Aaron i ofalu bob amser am lamp o flaen yr ARGLWYDD o'r cyfnos hyd y bore; y mae hon yn ddeddf dragwyddol dros y cenedlaethau.