Leviticus 25:16 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yn ôl amldra'r blynyddoedd y chwanegi ei bris, ac yn ôl anamldra'r blynyddoedd y lleihei di ei bris; oherwydd rhifedi'r cnydau y mae efe yn ei werthu i ti.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Os oes blynyddoedd lawer i fynd, bydd y pris yn uwch. Os mai ychydig o flynyddoedd sydd i fynd bydd y pris yn is. Beth sy'n cael ei werthu go iawn ydy nifer y cnydau fydd y tir yn ei roi.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pan fydd y blynyddoedd yn niferus, yr ydych i godi'r pris, ond pan fydd y blynyddoedd yn ychydig, yr ydych i'w ostwng, oherwydd yr hyn a werthir yw nifer y cnydau.