Leviticus 27:10 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Na rodded un arall amdano, ac na newidied ef, y da am y drwg, neu y drwg am y da: ac os gan newidio y newidia anifail am anifail; bydded hwnnw a bydded ei gyfnewid hefyd yn sanctaidd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dydy'r anifail ddim i gael ei gyfnewid am un arall, hyd yn oed os ydy'r anifail hwnnw'n un gwell. Os ydy e'n ceisio gwneud hynny, bydd y ddau anifail yn gysegredig.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Nid yw i'w gyfnewid, na rhoi un da am un gwael nac un gwael am un da; os bydd yn cyfnewid un anifail am un arall, bydd y ddau ohonynt yn sanctaidd.