Leviticus 27:24 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Y maes a â yn ei ôl, flwyddyn y jiwbili, i'r hwn y prynasid ef ganddo, sef yr hwn oedd eiddo etifeddiaeth y tir.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ar flwyddyn y rhyddhau bydd y tir yn mynd yn ôl i'r person y cafodd y tir ei brynu ganddo'n wreiddiol (sef y sawl roedd y tir yn rhan o etifeddiaeth ei deulu).
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ym mlwyddyn y jwbili dychwelir y tir i'r sawl y prynwyd ef ganddo, sef yr un yr oedd y tir yn rhan o'i etifeddiaeth.