Leviticus 27:28 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ond pob diofryd‐beth a ddiofrydo un i'r ARGLWYDD, o'r hyn oll a fyddo eiddo ef, o ddyn neu o anifail, neu o faes ei etifeddiaeth, ni werthir, ac ni ryddheir: pob diofryd‐beth sydd sancteiddiolaf i'r ARGLWYDD.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Dydy rhywbeth sydd wedi ei gadw o'r neilltu i'r ARGLWYDD (yn berson dynol, yn anifail neu'n ddarn o dir y teulu) ddim i gael ei werthu na'i brynu'n ôl. Mae popeth sydd wedi ei gadw o'r neilltu iddo yn gysegredig. Mae'n perthyn i'r ARGLWYDD.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Er hynny, ni ellir gwerthu na rhyddhau unrhyw eiddo, boed ddyn, anifail, neu dir sy'n etifeddiaeth, os yw wedi ei gyflwyno'n ddiofryd i'r ARGLWYDD; y mae unrhyw ddiofryd yn sanctaidd i'r ARGLWYDD.