Leviticus 27:33 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Nac edryched pa un ai da ai drwg fydd efe, ac na newidied ef: ond os gan newidio y newidia efe hwnnw, bydded hwnnw a bydded ei gyfnewid ef hefyd yn gysegredig; ni ellir ei ollwng yn rhydd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Does gan y perchennog ddim hawl i wahanu'r anifeiliaid da oddi wrth y rhai gwan, neu i gyfnewid un o'r anifeiliaid. Os ydy e'n gwneud hynny bydd y ddau anifail wedi eu cysegru i'r ARGLWYDD. Fydd dim hawl i brynu'r naill na'r llall yn ôl.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ni ddylid dewis rhwng da a drwg, na chyfnewid; ond os newidir un yn lle'r llall, bydd y ddau ohonynt yn sanctaidd, ac ni ellir eu rhyddhau.'"