Leviticus 3:1 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac os aberth hedd fydd ei offrwm ef, pan offrymo efe eidion, offrymed ef gerbron yr ARGLWYDD yn berffaith‐gwbl; pa un bynnag ai yn wryw ai yn fenyw.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Pan mae rhywun yn cyflwyno offrwm i gydnabod daioni'r ARGLWYDD, os mai anifail o'r gyr o wartheg ydy e, gall fod yn wryw neu'n fenyw, ond rhaid iddo fod heb ddim byd o'i le arno.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"'Os heddoffrwm fydd ei rodd, ac yntau'n dod ag anifail o'r gyr, boed wryw neu fenyw, dylai gyflwyno i'r ARGLWYDD anifail di-nam.