Leviticus 3:2 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A rhodded ei law ar ben ei offrwm, a lladded ef wrth ddrws pabell y cyfarfod: a thaenelled meibion Aaron, yr offeiriaid, y gwaed ar yr allor o amgylch.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Rhaid i'r person sy'n ei gyflwyno osod ei law ar ben yr anifail ac yna ei ladd o flaen y fynedfa i'r Tabernacl. Wedyn bydd yr offeiriaid, disgynyddion Aaron, yn sblasio'r gwaed o gwmpas yr allor.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Y mae i osod ei law ar ben yr offrwm a'i ladd wrth ddrws pabell y cyfarfod; yna bydd meibion Aaron, yr offeiriaid, yn lluchio'r gwaed ar bob ochr i'r allor.