Leviticus 4:18 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A gosoded o'r gwaed ar gyrn yr allor sydd gerbron yr ARGLWYDD, sef yr hon sydd ym mhabell y cyfarfod; a thywallted yr holl waed arall wrth waelod allor y poethoffrwm, yr hon sydd wrth ddrws pabell y cyfarfod.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Wedyn bydd yn rhoi peth o'r gwaed ar gyrn allor yr arogldarth sydd o flaen yr ARGLWYDD yn y Tabernacl. Yna bydd yn mynd â gweddill y gwaed a'i dywallt wrth droed yr allor i losgi offrymau tu allan i'r fynedfa i'r Tabernacl.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Bydd hefyd yn rhoi peth o'r gwaed ar gyrn yr allor sydd gerbron yr ARGLWYDD ym mhabell y cyfarfod, a bydd yn tywallt y gweddill ohono wrth droed allor y poethoffrwm sydd wrth ddrws pabell y cyfarfod.