Leviticus 4:26 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A llosged ei holl wêr ar yr allor, fel gwêr yr aberth hedd: a gwnaed yr offeiriad gymod drosto am ei bechod; a maddeuir iddo.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Bydd yn llosgi'r brasder i gyd ar yr allor, fel roedd yn gwneud gyda brasder yr offrwm i gydnabod daioni'r ARGLWYDD. Felly bydd yr offeiriad yn gwneud pethau'n iawn rhyngddo â Duw, a bydd Duw yn maddau iddo am ei bechod.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Bydd yn llosgi holl fraster y bwch ar yr allor, fel y llosgodd fraster yr heddoffrwm. Fel hyn y bydd yr offeiriad yn gwneud cymod dros bechod yr arweinydd, ac fe faddeuir iddo.