Leviticus 4:3 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Os offeiriad eneiniog a becha yn ôl pechod y bobl; offrymed, dros ei bechod a wnaeth, fustach ieuanc perffaith‐gwbl, yn aberth dros bechod i'r ARGLWYDD.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Os ydy'r archoffeiriad wedi pechu mae'n effeithio ar bawb. Mae'n gwneud pawb yn euog. Felly rhaid iddo gyflwyno tarw ifanc sydd â dim byd o'i le arno yn offrwm puro i'w lanhau o'i bechod.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"'Os yr offeiriad eneiniog fydd yn pechu ac yn dwyn euogrwydd ar y bobl, dylai ddod bustach ifanc di-nam i'r ARGLWYDD yn aberth dros y pechod a wnaeth.