Leviticus 4:31 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A thynned ei holl wêr hi, fel y tynnir y gwêr oddi ar yr aberth hedd; a llosged yr offeiriad ef ar yr allor, yn arogl peraidd i'r ARGLWYDD: a gwnaed yr offeiriad gymod drosto; a maddeuir iddo.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Bydd y person sy'n cyflwyno'r offrwm yn cymryd brasder yr anifail (fel mae'n gwneud gyda'r offrwm i gydnabod daioni'r ARGLWYDD). Wedyn bydd yr offeiriad yn llosgi'r brasder ar yr allor — yn rhodd sy'n arogli'n hyfryd i'r ARGLWYDD. Felly bydd yr offeiriad yn gwneud pethau'n iawn rhyngddo â Duw, a bydd Duw yn maddau iddo am ei bechod.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Bydd yn tynnu ymaith yr holl fraster, fel y tynnir y braster oddi ar yr heddoffrwm, a bydd yr offeiriad yn ei losgi ar yr allor, yn arogl peraidd i'r ARGLWYDD. Fel hyn y bydd yr offeiriad yn gwneud cymod drosto, ac fe faddeuir iddo.