Leviticus 4:7 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A gosoded yr offeiriad beth o'r gwaed gerbron yr ARGLWYDD ar gyrn allor yr arogl‐darth peraidd, yr hon sydd ym mhabell y cyfarfod; a thywallted holl waed arall y bustach wrth droed allor y poethoffrwm, yr hon sydd wrth ddrws pabell y cyfarfod.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Wedyn bydd yn rhoi peth o'r gwaed ar gyrn allor yr arogldarth sydd yno o flaen yr ARGLWYDD. A bydd yn mynd â gweddill y gwaed a'i dywallt wrth droed yr allor i losgi offrymau sydd y tu allan i'r fynedfa i'r Tabernacl.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Bydd yr offeiriad hefyd yn rhoi peth o'r gwaed ar gyrn allor yr arogldarth peraidd, sydd gerbron yr ARGLWYDD ym mhabell y cyfarfod; a bydd yn tywallt gweddill gwaed y bustach wrth droed allor y poethoffrwm, sydd wrth ddrws pabell y cyfarfod.