Leviticus 5:10 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r ail a wna efe yn offrwm poeth, yn ôl y ddefod: a'r offeiriad a wna gymod drosto am ei bechod yr hwn a bechodd; a maddeuir iddo.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Wedyn bydd yr ail aderyn yn cael ei gyflwyno yn offrwm i'w losgi'n llwyr. Bydd yr offeiriad yn dilyn y ddefod arferol wrth ei gyflwyno. Bydd yr offeiriad yn gwneud pethau'n iawn rhwng y person sy'n cyflwyno'r offrwm â Duw, a bydd Duw yn maddau iddo am ei bechod.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Bydd yn cyflwyno'r ail yn boethoffrwm yn y dull arferol. Fel hyn y bydd yr offeiriad yn gwneud cymod drosto am y pechod a wnaeth, ac fe faddeuir iddo.