Leviticus 5:4 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Neu os dyn a dwng, gan draethu â'r gwefusau ar wneuthur drwg, neu wneuthur da; beth bynnag a draetho dyn trwy lw, a'r peth yn guddiedig rhagddo; pan gaffo efe wybod, euog yw o un o hyn.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Pan mae rhywun yn fyrbwyll ac yn addo ar lw ei fod yn mynd i wneud rhywbeth — da neu ddrwg — mae e'n euog y funud mae e'n sylweddoli beth mae e wedi ei wneud.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Neu os bydd rhywun yn tyngu llw yn ddifeddwl, boed i wneud drwg neu dda, mewn unrhyw beth y byddai rhywun yn tyngu llw difeddwl ynglu375?n ag ef, er iddo wneud hynny'n ddiarwybod, pan fydd yn sylweddoli hynny bydd yn euog o un o'r pethau hyn.