Leviticus 5:6 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A dyged i'r ARGLWYDD ei offrwm dros gamwedd am ei bechod yr hwn a bechodd; sef benyw o'r praidd, oen neu fyn gafr, yn aberth dros bechod; a gwnaed yr offeiriad gymod drosto am ei bechod.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Wedyn rhaid iddo dalu am y drwg mae wedi ei wneud drwy ddod â dafad neu afr i'w gyflwyno i'r ARGLWYDD yn offrwm i'w lanhau o'i bechod. Bydd offeiriad yn gwneud pethau'n iawn rhyngddo â Duw, a bydd Duw yn maddau iddo am ei bechod.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
ac yn iawn am y pechod a wnaeth y mae i ddod ag aberth dros bechod i'r ARGLWYDD, sef oen benyw neu afr o'r praidd; a bydd yr offeiriad yn gwneud cymod drosto am ei bechod.