Leviticus 6:16 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r gweddill ohono a fwyty Aaron a'i feibion: yn groyw y bwyteir ef: yn y lle sanctaidd o fewn cynteddfa pabell y cyfarfod y bwytânt ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Bydd yr offeiriaid, Aaron a'i ddisgynyddion, yn bwyta'r gweddill ohono. Rhaid ei fwyta heb furum mewn lle sydd wedi ei gysegru, sef iard y Tabernacl.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Bydd Aaron a'i feibion yn bwyta'r gweddill ohono, ond rhaid ei fwyta heb furum mewn lle sanctaidd; y maent i'w fwyta yng nghyntedd pabell y cyfarfod.