Leviticus 6:2 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Os pecha dyn, a gwneuthur camwedd yn erbyn yr ARGLWYDD, a dywedyd celwydd wrth ei gymydog am yr hyn a rodded ato i'w gadw, neu am yr hyn y rhoddes efe ei law, neu yn yr hyn trwy drawster a ddygodd efe, neu yn yr hyn y twyllodd ei gymydog;
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Pan mae rhywun yn troseddu yn fy erbyn i yr ARGLWYDD trwy dwyllo person arall, dyma sydd raid ei wneud: “Os ydy rhywun yn gwrthod rhoi rhywbeth sydd yn ei ofal yn ôl. Neu os ydy e'n gwrthod talu benthyciad yn ôl. Neu os ydy e wedi dwyn rhywbeth. Neu os ydy e wedi gwneud elw ar draul rhywun arall.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Os bydd unrhyw un yn pechu ac yn anffyddlon i'r ARGLWYDD oherwydd iddo dwyllo ei gymydog ynglu375?n rhywbeth a ymddiriedwyd iddo, neu a adawyd yn ei ofal, neu a ladratawyd, neu oherwydd iddo dreisio ei gymydog,