Leviticus 6:20 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Dyma offrwm Aaron a'i feibion, yr hwn a offrymant i'r ARGLWYDD, ar y dydd yr eneinier ef. Degfed ran effa o beilliaid yn fwyd‐offrwm gwastadol, ei hanner y bore, a'i hanner brynhawn.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Dyma'r offrwm mae offeiriad i'w gyflwyno i'r ARGLWYDD pan mae'n cael ei ordeinio: mae'r un fath a'r offrwm sy'n cael ei wneud fore a nos bob dydd, sef hanner cilogram o'r blawd gwenith gorau
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Dyma'r offrwm y mae Aaron a'i feibion i'w gyflwyno i'r ARGLWYDD ar y dydd yr eneinir ef: degfed ran o effa o beilliaid yn fwydoffrwm rheolaidd, hanner ohono yn y bore a hanner gyda'r nos.