Leviticus 6:25 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Llefara wrth Aaron ac wrth ei feibion, gan ddywedyd, Dyma gyfraith yr aberth dros bechod. Yn y lle y lleddir y poethoffrwm, y lleddir yr aberth dros bechod gerbron yr ARGLWYDD: sancteiddiolaf yw efe.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Dywed wrth Aaron a'i ddisgynyddion mai dyma'r drefn gyda'r offrwm i lanhau o bechod: Mae'r offrwm i lanhau o bechod i gael ei ladd o flaen yr ARGLWYDD yn yr un lle ag mae'r offrwm i'w losgi yn cael ei ladd. Mae'n gysegredig iawn.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
'Dyma ddeddf yr aberth dros bechod: Y mae'r aberth dros bechod i'w ladd o flaen yr ARGLWYDD yn y lle y lleddir y poethoffrwm; bydd yn gwbl sanctaidd.