Leviticus 7:12 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Os yn lle diolch yr offryma efe hyn; offrymed gyda'r aberth diolch deisennau croyw, wedi eu cymysgu trwy olew; ac afrllad croyw, wedi eu hiro ag olew; a pheilliaid wedi ei grasu yn deisennau, wedi eu cymysgu ag olew.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Os ydy rhywun yn ei gyflwyno i ddweud diolch am rywbeth, rhaid cyflwyno offrwm gydag e sydd wedi ei wneud o'r blawd gwenith gorau. Bara heb furum ynddo wedi ei gymysgu gydag olew olewydd, bisgedi tenau wedi eu brwsio gyda'r olew, a bara wedi ei wneud o'r blawd gwenith gorau ac wedi ei socian mewn olew.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Os cyflwynir ef yn ddiolchgarwch, dylid cyflwyno gyda'r offrwm diolch deisennau heb furum wedi eu cymysgu ag olew, bisgedi heb furum wedi eu taenu ag olew, a theisennau o beilliaid wedi eu tylino a'u cymysgu ag olew.