Leviticus 7:18 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac os bwyteir dim o gig offrwm ei ebyrth hedd ef o fewn y trydydd dydd, ni byddir bodlon i'r hwn a'i hoffrymo ef, ac nis cyfrifir iddo, ffieiddbeth fydd: a'r dyn a fwyty ohono, a ddwg ei anwiredd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ddylai cig yr offrwm i gydnabod daioni'r ARGLWYDD ddim cael ei fwyta fwy na diwrnod ar ôl ei gyflwyno. Os ydy hynny'n digwydd fydd y person sydd wedi cyflwyno'r offrwm ddim yn cael ei dderbyn. Bydd yr offrwm wedi ei sbwylio, a bydd unrhyw un sydd wedi ei fwyta yn cael ei gyfri'n euog.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Os bwyteir rhywfaint o gig yr heddoffrwm ar y trydydd dydd, ni fydd yr un sy'n ei gyflwyno yn dderbyniol, ac ni chyfrifir yr offrwm iddo am ei fod yn amhur; a bydd y sawl sy'n ei fwyta yn euog oherwydd hynny.